Rydym wedi cychwyn 'Active Journeys' ac felly fe ddaeth swyddog allan i'r ysgol i wneud gwasanaeth ysgol gyfan gyda'r disgyblion. Roeddwn hefyd wedi cynnal sesiwn diogelwch sgwtera yn ystod y diwrnod lle roedd pob disgybl (Derbyn hyd at Flwyddyn 6) wedi cael y cyfle i ddysgu ac ymarfer sgiliau ar sgwter. Trafodon sut i sgwtera'n ddiogel, pam fod sgwtera'n dda i'r amgylchedd, pa effaith gadarnhaol roedd hyn yn medru cael yn hytrach na gyrru mewn car i'r ysgol.
Byddwn yn gwneud mwy o ddiwrnodau fel hyn yn ystod y flwyddyn er mwyn cefnogi'r rhaglen yma hefyd.