Allet ti ddychmygu sut beth fyddai bywyd heb drydan?
Rydyn ni'n dibynnu ar drydan nid yn unig am y dechnoleg rydyn ni'n mwynhau ei defnyddio, ond yn aml am wres, hylendid a bwyd hefyd!
Heria dy hun i dreulio diwrnod cyfan heb ddefnyddio unrhyw drydan.
Yn 2019 cafodd 51.45% o drydan y DU ei gynhyrchu gan danwydd ffosil.
Mae llosgi tanwydd ffosil yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr i'n hamgylchedd, nwyon sy'n dal gwres yn ein hatmosffer ac yn cynhesu'r blaned. Mae'r cynhesu hwn yn newid ein hinsawdd, yn toddi ein capiau iâ, yn cynyddu lefelau'r môr ac yn gwneud yr amgylchedd yn fwy llygredig ac yn anos i anifeiliaid, planhigion a ni fyw ynddo!
Mae dros hanner y trydan a ddefnyddir ym mhob cartref y DU yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. (Gallai eich cartref fod yn fwy neu'n llai na hyn.)
Ar dy Ddiwrnod Diffodd y Pŵer efallai y bydd angen i ti ystyried:
- Sut rwyt ti'n paratoi bwyd
- Beth rwyt ti'n ei wneud am hwyl
- Beth sy'n digwydd ar ôl iddi nosi
- a mwy!