Power Down Day

Damers First School, Wednesday, 22 March 2023
5 Home learning KS1, KS2, KS3, KS4

What you did

The children held a Power Down Day across the school asking everyone to turn off computers, ipads and chromebook chargers, projectors, lights to see how much could be saved.  The money saved on powering down day will go into a pot and each class will get the chance to apply for some or all of the money for items like toys, PE equipment, money towards a school trip, workshop in school. Whichever bid is the best (chosen by the Eco Crew) will get the money as long as they have powered down correctly.

But it’s not just that day only, if everyone continues to turn things off and save energy, we can use the saved money for more bids throughout the year. Keep powering down, keep getting rewards.

Activity description

 Allet ti ddychmygu sut beth fyddai bywyd heb drydan? 
Rydyn ni'n dibynnu ar drydan nid yn unig am y dechnoleg rydyn ni'n mwynhau ei defnyddio, ond yn aml am wres, hylendid a bwyd hefyd! 

Heria dy hun i dreulio diwrnod cyfan heb ddefnyddio unrhyw drydan.

Yn 2019 cafodd 51.45% o drydan y DU ei gynhyrchu gan danwydd ffosil.  

Mae llosgi tanwydd ffosil yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr i'n hamgylchedd, nwyon sy'n dal gwres yn ein hatmosffer ac yn cynhesu'r blaned. Mae'r cynhesu hwn yn newid ein hinsawdd, yn toddi ein capiau iâ, yn cynyddu lefelau'r môr ac yn gwneud yr amgylchedd yn fwy llygredig ac yn anos i anifeiliaid, planhigion a ni fyw ynddo! 

Mae dros hanner y trydan a ddefnyddir ym mhob cartref y DU yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. (Gallai eich cartref fod yn fwy neu'n llai na hyn.)

Ar dy Ddiwrnod Diffodd y Pŵer efallai y bydd angen i ti ystyried: 
  • Sut rwyt ti'n paratoi bwyd
  • Beth rwyt ti'n ei wneud am hwyl
  • Beth sy'n digwydd ar ôl iddi nosi
  • a mwy!